Cwlwm Cyhoeddwyr Cymru
Mae Cwlwm Cyhoeddwyr Cymru yn cynrychioli cyhoeddwyr llyfrau Cymraeg ledled Cymru. Cafodd ei sefydlu yn 2002 ac mae wedi bod yn cwrdd bob chwarter yn Aberystwyth ers hynny. Mae ganddo un Swyddog Cyswllt sy’n gweithio’n rhan amser.
Prif fwriad y Cwlwm yw sicrhau bod un llais cryf yn cynrychioli ac yn hyrwyddo ac yn diogelu buddiannau’r aelodau ym mhob cyd-destun perthnasol. Mae’r Cwlwm hefyd yn trefnu gwyl lyfrau Gymraeg flynyddol, sef Bedwen Lyfrau. Cynhaliwyd yr wyl gyntaf dros benwythnos Calan Mai 2006.
Cofrestrwyd Cwlwm Cyhoeddwyr Cymru fel cwmni cyfyngedig cydweithredol yn 2005.
Aelodaeth o Cwlwm Cyhoeddwyr Cymru
Mae’r Cwlwm yn agored i unrhyw gwmni sy’n cyhoeddi llyfrau yn y Gymraeg os
(1) yr ystyria’r cwmni mai cyhoeddi llyfrau Cymraeg yw ei briod waith;
a/neu
(2) y cyhoeddir o leiaf 5 teitl Cymraeg gan y cwmni mewn blwyddyn
Mae 14 o gyhoeddwyr yn aelodau llawn o’r Cwlwm, sef: