Atebol

Atebol Cwmni cyhoeddi yw Atebol sy’n arbenigo mewn paratoi adnoddau addysgol ar gyfer ysgolion a cholegau Cymru. Mae Atebol hefyd yn cyhoeddi llyfrau a gemau i’w defnyddio gan blant a’u rhieni yn y cartref. Mae pwyslais y cwmni ar baratoi gemau ac adnoddau dysgu sy’n hwyl i’w chwarae a’u defnyddio. Atebol ydy cwmni gemau addysgol mwyaf Cymru. Mae’r gemau’n cynnwys gemau iaith yn ogystal â gemau ar gyfer meithrin sgiliau meddwl a sgiliau sylfaenol. Mae pwyslais ar greu adnoddau dysgu Cymraeg a dwyieithog i blant sy’n derbyn eu haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg ond bod eu cartref yn ddwyieithog. Mae’r cwmni hefyd yn paratoi adnoddau ar gyfer oedolion sy’n dysgu’r Gymraeg fel ail iaith.
Mae Atebol yn dwyn ynghyd nifer o arbenigwyr pynciol yn ogystal ag arbenigwyr ieithyddol sydd â phrofiad helaeth o baratoi deunyddiau addysgol sy’n addas ar gyfer dysgu ac addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae Atebol yn cynnig ‘gwasanaeth un safle’ ar gyfer unrhyw asiantaeth neu gwmni sydd am baratoi deunyddiau Cymraeg neu ddwyieithog. Mae’r cwmni blaengar hwn yn cynnwys ysgrifenwyr, cyfieithwyr, golygyddion, prawf ddarllenwyr a dylunwyr medrus sy’n abl i droi eu llaw at baratoi ystod eang o ddeunyddiau a chyhoeddiadau. Chwiliwch am ein cyhoeddiadau ar www.atebol.com.
Am fanylion pellach cysylltwch â:
Glyn Saunders Jones
Atebol Cyf
Adeiladau’r Fagwyr
Llandre
Aberystwyth
Ceredigion
SY24 5AQ
Ffôn: 01970 832 172
Ffacs: 01970 832 259
Ebost: atebol@btinternet.com
www.atebol.com