Gwyl Bedwen Lyfrau
Gwyl Lyfrau Gymraeg i’r teulu i gyd wedi ei threfnu gan Cwlwm Cyhoeddwyr Cymru yw Bedwen Lyfrau. Cynhaliwyd y Fedwen gyntaf yn Galeri Caernarfon yn 2006. Yn dilyn llwyddiant yr wyl gyntaf yma, penderfynwyd cynnal y Fedwen Lyfrau yn flynyddol ar benwythnos Calan Mai. Am ragor o fanylion ewch i bedwenlyfrau.blogspot.com
Cefndir yr wyl
O’r cychwyn cyntaf bu’n freuddwyd gan Cwlwm Cyhoeddwyr Cymru i weld gwyl lyfrau fel y Fedwen yn cael ei chynnal: gwyl lyfrau yn llawn o bob math o adloniant a difyrrwch i’r teulu cyfan ac yn hyrwyddo gwerthu llyfrau Cymraeg.
Yn dilyn ymweliad â Barcelona, profodd un o’r cyhoeddwyr awyrgylch fyrlymus Diwrnod y Llyfr yn y ddinas honno. Roedd stondinau ar y Ramblas, roedd hi fel Steddfod ym mhob sgwâr, roedd awduron a bandiau, grwpiau canu a chyhoeddwyr wrthi drwy’r dydd a theuluoedd yn mwynhau’r cyfan ac yn prynu llond sachau o lyfrau.
‘Diwrnod’ Barcelona oedd ‘Diwrnod y Llyfr’ cyntaf. Mae’n bwysig i ni yng Nghymru gofio pam y crewyd yr wyl yno. O dan ormes Franco, gwaharddwyd y Gatalaneg mewn ysgolion. Tyfodd dwy genhedlaeth o Gatalanwyr heb addysg ffurfiol yn eu mamiaith, heb fedru darllen dim ond yr hyn a gawsant ar yr aelwyd adref.
Pan fu farw Franco ynhanol y saithdegau, penderfynwyd ailddysgu’r cenedlaethau coll i ddarllen llyfrau yn eu hiaith eu hunain. Rhan o’r ymgyrch bwysig honno oedd cael ‘diwrnod prynu llyfrau Catalaneg’ ar eu diwrnod cenedlaethol, sef y 23ain o Ebrill. Tyfodd honno i fod yn gyfuniad cyffrous o lyfrau newydd, adloniant torfol a gwerthu a mwynhau mawr. Gobaith Cwlwm Cyhoeddwyr yw y bydd y Fedwen Lyfrau yn cynnig dathliadau tebyg yn y byd cyhoeddi Cymraeg.
Beth mae Bedwen Lyfrau yn ei gynnig?
Lansiadau
Llyfrau amrywiol yn cael eu lansio a’u cyflwyno i’r cyhoedd am y tro cyntaf.
Stondinau Llyfrau
Gwerthir holl gynnyrch newydd y cyhoeddwyr gan y llyfrwerthwr lleol.
Bydd byrddau bargen gan y gweisg mwyaf poblogaidd yn cynnig prisiau gostyngol, anhygoel ar lawer o deitlau apelgar.
Adloniant i’r Plant
Mae’r Fedwen yn cynnig digon o ddifyrrwch i blant, yn cynnwys sesiynau sachau stori, sgyrsiau gydag awduron, sesiynau adrodd stori, perfformiadau a chyflwyniadau a sgwadiau sgwennu i’r ifanc.
Oedolion
Cyflwyniadau, sesiynau holi awduron poblogaidd, cwis cylchoedd darllen, darlleniadau gan awduron blaengar a thrafodaethau hwyliog.