Cwlwm Cyhoeddwyr Cymru

Y Ganolfan Astudiaethau Addysg (CAA)

logo

Asiantaeth gyhoeddi addysgol sy’n rhan o Brifysgol Cymru Aberystwyth yw’r Ganolfan Astudiaethau Addysg (CAA).

CAA yw un o’r cyhoeddwyr addysgol mwyaf yng Nghymru. Dros y tair blynedd diwethaf, cyhoeddwyd dros 50 o deitlau newydd y flwyddyn gan yr asiantaeth.

Mae CAA yn cynhyrchu deunyddiau o ansawdd uchel mewn ystod eang o bynciau ar gyfer pob Cyfnod Allweddol: addysg gynradd, addysg uwchradd ac addysg ôl-16 a Lefel Uwch. Mae’r asiantaeth yn arbenigo mewn creu deunyddiau dysgu Cymraeg fel ail iaith ac mae hyrwyddo llythrennedd darllenwyr anfoddog hefyd yn nod bwysig iddi. Cynhyrchir amrywiaeth o gyfryngau yn y Gymraeg a’r Saesneg gan CAA, o lyfrau a thaflenni i becynnau i CD-ROMau.

Mae gan CAA brofiad helaeth o gynhyrchu deunyddiau o ansawdd da ar gyfer Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru (ACCAC). Bydd hefyd yn cynnig gwasanaeth i sefydliadau a busnesau sy’n dymuno datblygu deunyddiau addysgol.

Am wybodaeth bellach, cysyllter â:
Lynwen Rees Jones (Cyfarwyddwr)
CAA
Prifysgol Cymru Aberystwyth
Yr Hen Goleg,
Stryd y Brenin,
Aberystwyth
SY23 2AX

Ffôn: 01970 622121
Ffacs: 01970 622122
Ebost: loj@aber.ac.uk
www.caa.aber.ac.uk