Cymdeithas Lyfrau Ceredigion Gyf
![]()
Mae Cymdeithas Lyfrau Ceredigion Gyf yn gwmni cyhoeddi bychan a blaengar a sefydlwyd yn 1954 ac a leolir yn Aberystwyth.
Dan oruchwyliaeth un swyddog llawn-amser a dau swyddog rhan-amser cyhoeddir hyd at 20 teitl y flwyddyn yn cynnwys llyfrau Cymraeg i blant, llyfrau Cymraeg i oedolion a rhai llyfrau Saesneg i oedolion.
CLC Gyf sy’n cyhoeddi straeon hynod boblogaidd Sali Mali a’i ffrindiau ynghyd â llyfrau lliwgar eraill i blant bach; nofelau i blant cynradd a rhai yn eu harddegau, yn llyfrau gwreiddiol ac yn addasiadau dethol.
Cynigir amrywiaeth eang o deitlau i oedolion yn cynnwys llyfrau ar hanes lleol ac atgofion, nofelau, barddoniaeth, dramâu, cyfeirlyfrau a myfyrdodau.
Enillodd teitlau CLC Gyf y gwobrau llyfrau canlynol:
Gwobr Tir na n-Og 2005 - Eco, Emily Huws
Gwobr Tir na n-Og 2006 - Carreg Ateb, Emily Huws
Gwerthwr Gorau Llyfrau Plant 2005 - Jac y Jwc ar y Fferm, Dylan Williams a Gordon Jones
Cyfarwyddwr Cyhoeddiadau:
Dylan Williams,
Cymdeithas Lyfrau Ceredigion Gyf,
Blwch Post 21,
Yr Hen Gwfaint,
Ffordd Llanbadarn,
Aberystwyth,
Ceredigion
SY23 1EY
Ffôn: 01970 617776
Ffacs: 01970 625844
Ebost: post@clcgyf.org