Cyhoeddiadau’r Gair

Cwmni cyhoeddi o dan adain Cyngor Ysgolion Sul ac Addysg Gristnogol Cymru yw Cyhoeddiadau’r Gair. Fe’i sefydlwyd yn 1992 gyda’r bwriad o gyhoeddi a hyrwyddo llyfrau Cristnogol Cymraeg. Mae gan Gyhoeddiadau’r Gair raglen lawn o gyhoeddiadau gyda thros 50 o deitlau yn cael eu cyhoeddi yn flynyddol.
Mae Cyhoeddiadau’r Gair yn gweithredu yn y Gymraeg ac yn cydweithio yn agos iawn gyda nifer o weisg Cristnogol yn Lloegr a thu hwnt. Aled Davies yw’r Cyfarwyddwr ac Ynyr Roberts sy’n gyfrifol am y dylunio a chysodi.
Os ydych am dderbyn
- Catalog llawn o’r cyhoeddiadau
- Gwybodaeth gyson am ddatblygiadau
- Cyflenwad o lyfrau
Am fanylion pellach cysylltwch â’r Cyfarwyddwr:
Y Parch. D. Aled Davies
Cyhoeddiadau'r Gair
Aelybryn
Chwilog
Pwllheli
Gwynedd
LL53 6SH
Ffôn: 01766 810092
Ebost: aled.davies@bangor.ac.uk