Cwlwm Cyhoeddwyr Cymru

Gwasg Gomer

logo

Gwasg Gomer yw ty cyhoeddi mwyaf Cymru. Sefydlwyd y cwmni yn 1892 yn Llandysul, Ceredigion gan J.D. Lewis ac mae’r cwmni yn dal i fod yn eiddo i'r un teulu hyd heddiw.

Cyhoeddir dros 120 o deitlau newydd bob blwyddyn gan wasg Gomer, pob un ohonynt â chysylltiad Cymreig arbennig. Mae pedair rhestr gyhoeddi benodol sef llyfrau Cymraeg i blant, llyfrau Cymraeg i oedolion, llyfrau Saesneg i blant (gwasgnod Pont Books) a llyfrau Saesneg i oedolion.

Llyfrau Cymraeg i blant
Arbenigedd Gomer yw cyhoeddi llyfrau deniadol i blant o bob oed, o lyfrau bwrdd Smot i nofelau grymus i'r arddegau. Ceir sawl cyfres boblogaidd, megis Helpwch eich Plentyn, Chwedlau o Gymru, Trwyn Mewn Llyfr a Whap! yn ogystal â nifer o lyfrau unigol: ffuglen, barddoniaeth, llyfrau ffeithiol ac adnoddau i athrawon.

Llyfrau Cymraeg i oedolion
Braint Gwasg Gomer yw cyhoeddi gwaith nifer fawr o lenorion amlycaf Cymru, yn awduron cyfoes ac enwau mawr y gorffennol.

Ymhlith y cewri y mae’r beirdd enwog, Gwenallt, T. H. Parry Williams, Waldo Williams a Cynan a'r awduron T. Rowland Hughes, D. J. Williams, Elena Puw Morgan ac Islwyn Ffowc Elis - a ddewiswyd yn awdur llyfr gorau'r ugeinfed ganrif am ei nofel enwog, Cysgod y Cryman. Gomer hefyd sydd wedi cyhoeddi gwaith y dramodydd, Gwenlyn Parry, ynghyd â llyfrau T. Llew Jones a Hywel Teifi Edwards, dau o eiconau Cymru.

O ran y to iau, mae Gomer yn falch o gyhoeddi ffuglen gyffrous a modern Manon Rhys, Robin Llywelyn, Owen Martell, Meleri Wyn James, Alun Jones, Angharad Price, Catrin Dafydd... mae'r rhestr yn faith!

Manylion cyswllt:

Gwasg Gomer
Llandysul
Ceredigion
SA44 4JL

Rhif ffôn (Adran Gyhoeddi): 01559 363090
Rhif Ffacs: 01559 363758
www.gomer.co.uk

Cyfarwyddwr Cyhoeddi: Mairwen Prys Jones
Ebost: mairwen@gomer.co.uk