Cwlwm Cyhoeddwyr Cymru

Gwasg Carreg Gwalch

logo

Gwasg brysur yn cyhoeddi amrywiaeth o lyfrau yn y Gymraeg ac am Gymru yw Gwasg Carreg Gwalch. Sefydlwyd y busnes, sy'n argraffu yn ogystal â chyhoeddi'r llyfrau, gan Myrddin ap Dafydd yn 1980 ac erbyn hyn mae gennym restr faith o deitlau. Byddwn yn cyhoeddi tua 40 teitl Cymraeg ac 20 teitl Saesneg o ddiddordeb Cymreig yn flynyddol. Mae’r wasg yn gweithio o ddwy ganolfan – mae’r prif swyddfa a’r gwaith argraffu yn Llanrwst ac mae swyddfa arall a stiwdio ddylunio yn Llwyndyrys. Yn ein lle ar y we, cewch wybodaeth am lyfrau Cymraeg y wasg, gan gynnwys tudalennau plant a gwybodaeth i ysgolion, a hefyd manylion am ein teitlau Saesneg, Ffrangeg, Almaeneg ac Iseldireg am Gymru, ein hanes, ei hetifeddiaeth a'i hiaith. (www.carreg-gwalch.co.uk a www.llyugadgwalch.com)

Mae'r wasg yn cynnig gwasanaeth e-farchnad yn ogystal felly cewch archebu'r llyfrau dros y we os y dymunwch.

Manylion y swyddfeydd:

Gwasg Carreg Gwalch,
12 Iard yr Orsaf,
Llanrwst,
Conwy
LL26 0EH

Ffôn: 01492 642031
Ffacs: 01492 641502

Gwasg Carreg Gwalch,
Ysgubor Plas,
Llwyndyrys,
Pwllheli,
Gwynedd
LL53 6NG

Ffôn: 01758 750432

Cyfarwyddwr: Myrddin ap Dafydd
Ebost: llyfrau@carreg-gwalch.co.uk