Hughes a’i Fab / S4C

Sefydlwyd Hughes a’i Fab yn Wrecsam yn 1824. Prynwyd y cwmni gan S4C yn 1982 gyda’r bwriad penodol o gyhoeddi llyfrau wedi eu seilio ar gynnwys rhaglenni’r sianel newydd, gyffrous Gymraeg. Yn ogystal, gofalwyd am ôl-gatalog sy’n cynnwys trysorau megis amryw o nofelau Daniel Owen a Kate Roberts, Llyfr Mawr y Plant a Cherddi’r Bugail, Hedd Wyn. Cyhoeddodd Hughes lyfrau SamTân a Tomos y Tanc yn ogystal â nofelau a llyfrau ffeithiol gan rai o awduron mwyaf adnabyddus y Gymraeg - Dr John Davies, Alan Llwyd, Myrddin ap Dafydd a Bethan Gwanas yn eu plith. Yn 2007, cyhoeddodd Tywysogion, cyfrol o hanes Cymru’r Oesoedd Canol o gyfnod Hywel Dda hyd at Owain Glyn Dwr, y gyfrol gyntaf o’i bath.
Cyswllt:
Luned Whelan
Hughes a’i Fab
S4C
Parc Ty Glas
Llanisien
Caerdydd
CF14 5DU
Ffôn: 029 2074 1484
Ebost: luned.whelan@s4c.co.uk