Y Lolfa

Sefydlwyd Y Lolfa mewn hen warws ym mhentref Talybont – yng nghanol Cymru ac yng nghanol y chwedegau. Roedd yn gyfnod cyffrous o herio a phrotestio, a chenhedlaeth o rebels ifainc yn credu mewn “chwyldro” ac mewn gwthio'r iaith i bob agwedd o fywyd. Ar y pryd, llyfrau dof a cheidwadol yn bennaf oedd ar y silffoedd, ac roedd yn rhan o weledigaeth Y Lolfa i greu math newydd, mentrus o gyhoeddi yn Gymraeg. Aeth ati i gyhoeddi llyfrau, cardiau a phosteri lliwgar a heriol.
Yn raddol ehangodd y cwmni gan symud, yn 1977, i fyny'r stryd fawr i Hen Swyddfa'r Heddlu. Roedd y gwaith cyhoeddi erbyn hyn yn cynnwys cyfresi arloesol fel Y Llewod, Rwdlan a'r Beirdd Answyddogol. Roedd hefyd wedi dechrau cyhoeddi llyfrau Saesneg i ddysgwyr ac ymwelwyr. Ond blaenoriaeth y cwmni yr adeg honno, fel heddiw, oedd sbarduno creadigrwydd Cymreig a Chymraeg.
O'r dechrau, fe gofleidiodd y cwmni dechnolegau newydd. Yn y chwedegau, manteisiodd ar ryddid newydd y dull ffoto-litho o argraffu gan greu gwaith graffig mentrus; yn y nawdegau fe ymdaflodd i'r dechnoleg ddigidol – Y Lolfa oedd y wasg gyntaf yng Nghymru i gael ei gwefan ei hun. Mae'r weledigaeth sylfaenol yn dal heddiw fel yn y dechrau, sef i gynhyrchu deunydd mentrus a blaengar yn Gymraeg fydd yn paratoi'r ffordd ar gyfer Cymru a fydd yn feddyliol a gwleidyddol rydd.
Rhai o staff Y Lolfa:
Rheowr Gyfarwyddwr
Garmon Gruffudd, ebost: garmon@ylolfa.com
Golygyddion Cymraeg
Lefi Gruffudd, ebost: lefi@ylolfa.com
Alun Jones, ebost: alun@ylolfa.com
Mared Roberts, ebost: mared@ylolfa.com
Golygyddion Saesneg
Gwen Davies, ebost: gwen@ylolfa.com
Dafydd Saer, ebost: dafydd@ylolfa.com
Moira Smith
Gwerthwr
Morgan Tomos, ebost: morgan@ylolfa.com
Rheolwr Cynhyrchu
Paul Williams, ebost: paul@ylolfa.com
Gweinyddwraig
Sonia Hughes, ebost: sonia@ylolfa.com
Manylion cyswllt:
Rhif ffôn: 01970 832304
Rhif ffacs: 01970 832782
Ebost: ylolfa@ylolfa.com
www.ylolfa.com
Y Lolfa,
Talybont,
Ceredigion,
SY24 5AP